Pennod 31 - Ffion Wyn - a podcast by Llwyd Owen

from 2019-02-19T22:01:56

:: ::

RHYBUDD: Mae’r sain braidd yn shit ar y bennod yma eto, sori, ond fi’n bwriadu buddsoddi mewn bach o git newydd cyn hir, felly bare with os gwelwch yn dda.

Sgwrs ddwfn a ddoniol gyda'r DJ (Radio Caerdydd) a hyrwyddwr hip-hop (Ladies of Rage) o Gerlan, Ffion Wyn.

Dyma fy ymdrech i efelychu un o fy hoff bodlediadau, sef ‘Hip-hop Saved my Life’ gyda Romesh Ranganathan. Fi wedi caru’r genre ers yr 1980au a dyma gyfle i geeko-mas gyda rhywun sy’n rhannu fy angerdd.

Yn ystod y bennod, ni'n trafod ein hoff LPs, hoff artistiaid, cas bethau (gwraig-gasineb, trais, rhywiaeth, gwyngalchu), Queen Latifah, Monie Love, Roxanne Shante, Beastie Boys, Rufus Mufasa, 3 Hwr Doeth, Wu Tang v KFC, Stones Throw, Tribe Called Quest a'r Native Tongues, Madlib, Cardi B, Queen B, Kool Keith, Del the Funky Homosapien, Dan the Automator, Damien Albarn, Biggie, Nicki Minaj, Tystion, Cofi Bach a Tew Shady, Nobsta Nuts, Mr Phormula, Vanilla Ice, Tone Loc a llawer mwy.

Ac ar ddiwedd y sgwrs, ma’ ’na fics byw nes i recordio rhyw ddeg mlynedd yn ôl sy’n cynnwys artistiaid sydd â chysylltiad â Stones Throw Records, cartref Madlib (sydd wedi cynhyrchu tua 50% o'r caneuon isod).

01 Lootpack – The Antidote (Intro)
02 Quasimoto – Return of the Loop Digga
03 Lootpack – Whenimondamic
04 Yesterday’s New Quintet – I am Singing
05 G&D – Time
06 Breakstra – Hidin’
07 Breakstra feat. Challi Tuna, Soup, Double K, K Wolf & Munyungo – Family Rap
08 John Robinson Project – Melinda’s Dress
09 Diverse – Ain’t Right
10 Quasimoto feat. Madvillain – Closer
11 Wildchild – The Wonder Years / Boom-bap
12 Lootpack – Answers
13 Talib Kweli – Funny Money
14 Dudley Perkins – Come Here my Dear
15 Jaylib – The Mission
16 The Jackal feat. Oh No – Vinyl Talk
17 Quasimoto feat. Medaphor – 24-7
18 Wildchild feat. Georgina Ann Muldrow – Day ‘n Funk
19 Dudley Perkins – The Last Stand

Further episodes of Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Further podcasts by Llwyd Owen

Website of Llwyd Owen