Syniadau Arloesol gyda Dafydd Loughran - a podcast by Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

from 2019-08-12T21:00:04

:: ::

Mae Cymru o’r maint perffaith i fedru arloesi ym myd iechyd a gofal yn ôl un entrepreneur o Gymro.

Yn y podlediad hwn bydd Dafydd Loughran, clinigwr ac entrepreneur sefydlwr cwmni Concentric yng Nghaerdydd yn trafod sut mae ecosystem iechyd digidol Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i greu pethau arloesol ym myd iechyd.

“Mae gan y GIG enw da ac mae cyfle gyda ni i fod ar y blaen, ond mae angen llai o gymhlethdodau yn y broses,” meddai. “Mae maint Cymru yn berffaith i ddangos bod sustemau yn gweithio felly mae angen i ni wneud Cymru yn le hawdd i fusnesau arloesol weithio….. mae’n dda bod ni’n gallu gwneud pethau ar raddfa genedlaethol.”

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, astudiodd Dafydd feddygaeth yng Nghaerdydd, ac yna hyfforddiant llawfeddygol yng Nghymru. Cyn sefydlu Concentric, ymgymerodd â chymrodoriaethau deallusrwydd artiffisial yn Babylon Health yn Llundain, ac mae'n dod â'r arbenigedd hwnnw i'r ecosystem technoleg iechyd sy'n ehangu yng Nghymru.

Mae cwmni Concentric wedi datblygu llwyfan sy'n cynorthwyo cleifion sy'n wynebu llawdriniaeth i wneud penderfyniadau ar y cyd â'u clinigwyr. Mae Dafydd o’r farn taw prynwriaeth o’r fath yma fydd un o themâu pwysicaf y byd iechyd yn y dyfodol ynghyd â defnyddio data i gefnogi penderfyniadau.

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

Further episodes of Syniadau Iach

Further podcasts by Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Website of Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru